It’s a Boy! Digwyddiad yr Nadolig – 29 Tachwedd 2025
Dewch â’ch teulu i fwynhau castell bownsio, lluniaeth, ardal dawel/synhwyraidd, canu, a chrefftau syml gyda’ch gilydd. Yn ystod y digwyddiad, bydd pryd ‘gyda’n gilydd’ pryd bydd pawb yn dod at eu gilydd am gael stori Feiblaidd ryngweithiol a chanu caneuon Cristnogol.
Pryd a Ble?
Bydd y digwyddiad yn cymryd lle ar:
Ddydd Sadwrn 11 Hydref rhwng 2yh a 4yh yn
Eglwys Highfields
Ffordd Monthermer
Cathays
Caerdydd
CF24 4QW
Archebu Lle
I archebu, cofrestrwch yn system archebu (Saesneg yn unig) Eglwys Highfields. Bydd eich cofrestriad yn aros yn y system cyhyd â’ch bod yn hapus i’w cadw yno, felly ni fydd angen i chi adfewnio eich manylion ar gyfer pob digwyddiad.
Cliciwch y botwm hwn i archebu lle:
Taflen y Digwyddiad
Dyma daflen y Digwyddiad fel PDF, ar gyfer i chi ei hargruffu – A4 fel 4 x cerdyn post A5. Teimlwch yn rydd i’w lawrlwytho a dosbarthu fel hoffech chi!

Taflen y Digwyddiad
Dyma daflen y Digwyddiad fel delwedd. Teimlwch yn rydd i’w lawrlwytho a dosbarthu fel hoffech chi (cyfryngau cymdeithasol, ayb).

Parcio
Os oes bathodyn glas i bobl anabl gyda chi, byddwch chi’n gallu dod o hyd i le yn weddol hawdd ac y mae yna ddau le i bobl anabl yn union y tu allan i adeilad yr eglwys. Fel arall, os nac oes bathodyn glas gyda chi, gallai un o’r dulliau canlynol eich helpu:
- Mae sawl man parcio i lawr yng nghyffiniau Maes Hamdden Parc y Rhath (Ffordd Ninian), rhwng deg a phymtheg munud ar droed o adeilad Eglwys Highfields.
- Mae maes parcio yn agos i adeilad yr eglwys (sef hen faes parcio’r ‘Co-op’). Mae hyn yn costio £1.50 ar hyn o bryd ac yn gadael i chi barcio am hyd at ddwy awr. Gallwch chi dalu am eich cerbyd wrth gyrraedd drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: Maes Parcio Horizon, Heol y Crwys.
Os nad ydych am dalu am barcio ac yn methu cerdded i fyny o Maes Hamdden Parc y Rhath, gwnewch yn siŵr i adael o leiaf hanner awr i ddod o hyd i le yn y ffyrdd o amgylch adeilad yr eglwys.
