Mae Goleudy i Bawb (oedd ‘Sadwrn Sbesial’ o’r blaen) yn grŵp anffurfiol sy’n gweithio gydag eglwysi ledled Caerdydd i ddarparu digwyddiadau i blant ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd.
Rydym yn cynnal digwyddiadau ym mis Mawrth, Gorffennaf, Hydref a Rhagfyr. Fel arfer, rydyn ni’n cynnal y digwyddiadau hyn yn eglwysi Caerdydd, lle rydyn ni’n darparu lluniaeth a lleoliad anffurfiol. Gall oedolion sgwrsio gyda’i gilydd a’r tîm. Gall y plant a’u teuluoedd fanteisio ar gastell bownsio, gweithgareddau synhwyraidd (ac ardal synhwyraidd), gemau, canu a chrefftau. Bob tro, rydym yn dod at ein gilydd ar gyfer cael stori Feiblaidd ryngweithiol, sgwrs gyda phyped (Doug y Ci) a chanu.
Cliciwch yma ar gyfer cael gwybodaeth am ein digwyddiad diweddaraf:
Er ein bod yn anelu at ddarparu cymaint â phosib yn ddwyieithog, mae ein hadnoddau’n gyfyngedig ac ar hyn o bryd, mae dim ond un siaradwr Cymraeg gyda ni ar y tîm. Felly nid yw’n bosibl darparu pob gweithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg – rydym yn gwneud ein gorau glas!